Tim Farron
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r blaid yn “benderfynol” y bydd yn ôl mewn grym.

Bydd Tim Farron yn dweud wrth gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol i baratoi eu hunain i ffurfio llywodraeth yn 2020, hyd yn oed os bydd yn golygu dod i gytundeb â’r Ceidwadwyr.

Bydd yr arweinydd yn pwysleisio pwysigrwydd dod i rym a rhoi’r egwyddor ar waith yn ei anerchiad mawr cyntaf i gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ers cael ei ethol yn arweinydd y blaid.

Fe wnaeth y blaid ddioddef yn ddifrifol yn yr etholiad diwethaf, gan golli 49 o seddi gan olygu mai dim ond wyth Aelod Seneddol sydd gan y blaid.