Jeremy Corbyn
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur, Jeremy Corbyn, wedi wfftio honiadau y bydd rhwyg o fewn y blaid os yw’n dod yn arweinydd.

Daeth sylwadau Corbyn wrth iddo amlinellu ei gynlluniau i dargedu bancwyr, Rupert Murdoch a chorfforaethau mewn cyfweliad gyda’r Financial Times.

Fe rybuddiodd y byddai’n darnio busnesau Rupert Murdoch er mwyn lleihau ei ddylanwad ar y cyfryngau ac yn mynd i’r afael a chyflogau uchel yn y byd corfforaethol.