Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae angen gwella diogelwch yn Calais ar frys, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, heddiw.

Daw ei sylwadau  yn dilyn marwolaeth ymfudwr neithiwr wrth i 1,500 o bobl oresgyn y ffensys yn Calais, gyda 2,000 wedi llwyddo i gyrraedd y twnnel y noson gynt.

Dywedodd Theresa May bod yn rhaid i’r Llywodraeth a Eurotunnel weithredu’n gyflym i fynd i’r adael a’r sefyllfa.

Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc, yr ymfudwr yw’r nawfed person i gael eu lladd yn y twnnel ers dechrau mis Mehefin. Credir ei fod yn dod o Sudan ac yn ei 20au.

Dywed Eurotunnel eu bod wedi rhywstro 37,000 o ymfudwyr rhag croesi i’r DU eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Groupe Eurotunnel, sy’n cynnal Twnnel y Sianel eu bod wedi buddsoddi £113 miliwn, gan gynnwys £9.2 miliwn yn chwe mis cyntaf 2015, a hynny mewn adnoddau dynol, ffensys, a chamerâu.

Mae’r cwmni wedi cynyddu’r mesurau diogelwch yn sylweddol, meddai’r llefarydd: “Mae’r buddsoddiadau sylweddol yma yn dilyn gosod ffensys newydd o amgylch y platfformau. Mae’r staff diogelwch wedi cael eu dyblu i 200 o weithwyr, gan gynnwys cwn heddlu.

“Er mwyn cefnogi ymdrechion y lluoedd diogelwch yn ardal Calais, mae Cwmni Eurotunnel wedi darparu bysus i’r awdurdodau i’w galluogi i symud unrhyw ymfudwyr.”

Fe fu Theresa May yn cadeirio cyfarfod brys o’r pwyllgor argyfyngau Cobra i drafod yr argyfwng bore ma.

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi £7 miliwn ychwanegol er mwyn gwella mesurau diogelwch yn Calais ac wrth fynediad Twnnel y Sianel.

Mae ’na alwadau ar Ffrainc i anfon milwyr i borthladd Calais gan ddweud na all yr heddlu ymdopi bellach.