Y felin goed yn Bosley wedi'r ffrwydrad
Mae trydydd corff wedi ei ddarganfod yn dilyn  ffrwydrad mewn melin goed ym mhentref Bosley yn Swydd Gaer yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Heddlu Swydd Gaer.

Cafodd y darganfyddiad ei wneud ar ôl iddyn nhw symud tair storfa ddoe a oedd yn eu galluogi i barhau gyda’r chwilio gyda chwn.

Mae disgwyl i deuluoedd y pedwar gweithiwr a laddwyd yn y ffrwydrad  ymweld â’r safle yn ddiweddarach heddiw.

Bu farw William Barks, 51 mlwydd oed, Dorothy Bailey, 62 mlwydd oed, Jason Shingler, 38 mlwydd oed, a Derek Moore, 62 mlwydd oed yn y ffrwydrad yn y felin goed.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Guy Hindle, ar ran Heddlu Swydd Gaer, “Mae’r teuluoedd eisiau talu eu teyrngedau, a deall natur y safle. Bydd hynny’n amser anodd iddyn nhw i gyd.”

Mae’r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn cael ei arwain gan yr heddlu, y gwasanaethau tan a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

‘Rhybudd’

Dywedodd Kelvin Barks fod ei frawd William Barks wedi siarad am “gyflafan oedd yn anochel” yn y felin.

Fe wnaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch roi rhybudd i gwmni Wood Treatment Ltd  sy’n rhedeg y felin dros ddwy flynedd yn ôl yn nodi fod yna risg o ffrwydrad neu dân ar y safle, ac fe wnaeth y cwmni gydymffurfio gyda’r rhybudd.