David Cameron yn y Sioe Frenhinol, yn Llanelwedd heddiw
Mae cynlluniau i greu cyfleodd newydd gwerth mwy na £7 biliwn i ffermwyr a chwmnïau bwyd wedi cael eu cyhoeddi heddiw gan David Cameron wrth iddo ymweld â’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

O dan y trefniadau presennol, mae saith o reoleiddwyr yn cynnal mwy na 125,000 o archwiliadau fferm y flwyddyn i  250,000 o ffermydd yn Lloegr.

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae’r archwiliadau yn cymryd amser gwerthfawr ac yn cyfyngu ar botensial y diwydiant ffermio i dyfu ymhellach.

Dywedodd David Cameron y byddai symleiddio’r broses, a gwneud gwell defnydd o dechnoleg a data, yn lleihau nifer yr arolygiadau yn sylweddol. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un fath hefyd.

Gwella allforion bwyd a diod

Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, bydd y newidiadau hyn hefyd yn helpu i greu gwerth mwy na £7 biliwn o gyfleoedd newydd – gan wella allforion bwyd a diod o’r DU i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddodd hefyd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu Enwau Bwyd Gwarchodedig o 63 i 200 – gyda disgwyl i Ham Caerfyrddin a Bara Lawr Cymreig gael eu hychwanegu i’r rhestr yn ddiweddarach yr haf hwn.

Amcangyfrifir fod cyfanswm gwerth Enwau Bwyd Gwarchodedig y DU yn fwy na £900 miliwn.

‘Potensial enfawr’

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd gwladol Cymru fod proffil Cymru fel un o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau’r byd yn “hwb allweddol i dwf economaidd ac yn elfen hanfodol o’n sector twristiaeth.”

Meddai Stephen Crabb: “O Halen Môn i Fara Lawr Cymreig, mae nifer cynyddol o gynnyrch gyda stamp ‘Gwnaed yng Nghymru’ arnyn nhw yn cael eu cydnabod ar draws y byd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarparu’r lefel gywir o gefnogaeth i’n harloeswyr bwyd – yng Nghymru ac mewn marchnadoedd tramor. Wrth wneud hynny gallwn helpu datgloi’r potensial enfawr sydd gan y sector hwn i fod yn beiriant sylweddol o dwf a chreu swyddi yn economi cefn gwlad Cymru.”