Richard Wyn Jones
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio bod cynlluniau’r Llywodraeth i gael Pleidleisiau Seisnig ar Ddeddfau Seisnig – EVEL – mewn peryg o gael gwared ar un cam, a chreu un arall.

Fe allai ceisio setlo cwynion pobol yn Lloegr arwain at ragor o wrthdaro rhwng gwledydd Prydain, meddai un o bedwar cymrawd o’r Ganolfan ar Newid Cymdeithasol.

Ac, yn ôl un arall – Yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd – mae’r cynlluniau’n anwybyddu un o’r prif broblemau … Fformiwla Barnett, sy’n rhannu arian o’r canol i’r gwledydd eraill.

Mae hwnnw, meddai, yn cymhlethu’r holl syniad o beth yw ‘Deddf Seisnig’ – yn aml, mae’n golygu bod gwario neu beidio â gwario yn Lloegr yn cael effaith ar yr arian sy’n dod i Gymru a gwledydd eraill.

Problemau eraill

Mae tri arbenigwr arall o’r ganolfan yn codi problemau eraill:

  • Mae’r newid i roi fito i ASau o Loegr ar ‘Ddeddfau Seisnig’ yn anwybyddu problem llawer mwy, meddai Michael Keating, Athro Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberdeen. Oherwydd diffyg pleidleisio cyfrannol, meddai, roedd y Llywodraeth Geidwadol wedi cael mwyafrif clir gyda dim ond 37% o’r bleidlais.
  • Mae’r Llywodraeth yn chwilio am ateb hawdd yn hytrach na gwneud y gwaith caled, meddai Charlie Jeffrey, Athro Gwleidyddiaeth Prifysgol Caeredin. Roedd angen meddwl yn galetach am y broses o lunio deddfau, aildrefnu adrannau yn Whitehall a chael trefn ariannol wahanol i Fformiwla Barnett i weithredu’r cyfan.
  • Mae’r cynlluniau’n creu peryg o ragor o wrthdaro “tiriogaethol”, meddai Michael Kenny, Athro Gwleidyddiaeth Prifysgol Queen Mary yn Llundain. “Pan fo’r Undeb dan straen fawr eisoes, rhaid i lywodraeth wneud popeth posib i greu consensws ehangach ar gyfer y newidiadau hyn ac egluro nad ydyn nhw’n gam cynta’ at senedd i Loegr,” meddai.