Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff wrth iddyn nhw chwilio am ddynes o ardal Llandysul oedd wedi mynd ar goll.

Dydd Iau fe apeliodd yr heddlu am wybodaeth am ddiflaniad Catherine Brooke, 56 oed, ar ôl i swyddogion godi pryderon ynglŷn â’i diogelwch.

Maen nhw bellach wedi dod o hyd i gorff dynes, er nad ydyn nhw wedi cadarnhau eto pwy yw hi.

“Diolch am helpu gyda’r apêl yn gynharach heddiw i Catherine Brooke oedd ar goll. Mae’n drist gennym ddweud bod corff dynes wedi cael ei ddarganfod, ond heb gael ei adnabod yn swyddogol eto,” meddai Heddlu Dyfed Powys neithiwr ar eu ffrwd Twitter.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu, fodd bynnag, eu bod wedi rhoi gwybod i deulu Catherine Brooke eu bod wedi dod o hyd i gorff.