David Cameron
Fe fydd David Cameron yn amddiffyn toriadau lles y Llywodraeth heddiw, gan fynnu eu bod wrth galon ei ymdrech i greu Prydain “fwy teg.”

Bydd y Prif Weinidog yn dadlau y dylai’r system helpu pobl i ddod o hyd i swyddi da yn hytrach na rhoi arian yn unig iddyn nhw.

Ond mae wedi rhoi addewid y bydd hefyd yn rhoi hwb i’r isafswm cyflog a’r lwfans treth bersonol. Mae disgwyl iddo hefyd roi addewid am ragor o gymorth gofal plant i deuluoedd sy’n gweithio a gwelliannau i addysg.