Bydd ditectifs yn troi eu sylw at yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth tri aelod o’r un teulu ar ôl i’r dyn oedd yn cael ei amau o’u llofruddio gael ei ddarganfod yn farw yn Rhydychen ddoe.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Jed Allen, 21, yn dilyn marwolaeth ei chwaer chwech oed, ei fam a’i phartner.

Roedd aelodau o’r cyhoedd wedi dod o hyd i gorff Jed Allen mewn coedlan yn Rhydychen ddydd Llun.

Cafwyd hyd i gyrff Derin Jordon, 6 oed, ei mam Janet Jordon, 48, a’i phartner Philip Howard, 44, yn Didcot nos Sadwrn. Roedden nhw wedi cael eu trywanu.