David Cameron yn cwrdd â llywydd yr Undeb Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn Chequers
Mae David Cameron wedi dweud wrth lywydd yr Undeb Ewropeaidd (UE), Jean-Claude Juncker, bod “yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd newid” er mwyn ateb pryderon pobl yn y DU.

Bu David Cameron a Jean-Claude Juncker yn trafod y newidiadau posib mewn cyfarfod yn  Chequers neithiwr.

Mae’r Prif Weinidog wedi dechrau ymdrechion o ddifrif i sicrhau newid yn y berthynas gyda Brwsel cyn i refferendwm gael ei gynnal ynglŷn ag aelodaeth Prydain o’r UE erbyn diwedd 2017.

Fe fydd deddfwriaeth ynglŷn â chynnal y refferendwm yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau, a bydd yn cadarnhau na fydd y rhan fwyaf o ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU yn cael pleidleisio.

Yn ogystal, ni fydd cyfle i bobl ifanc 16 ac 17 oed fwrw pleidlais.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddechrau ar daith o wledydd Ewrop yr wythnos hon wrth geisio sicrhau cefnogaeth i’w ddiwygiadau, cyn i’r arweinwyr gwrdd mewn uwch gynhadledd ym mis Mehefin. Bydd yn ymweld â Denmarc, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Gwlad Pwyl a’r Almaen.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio nad yw pobl Prydain yn hapus gyda’r status quo ac yn credu bod yn rhaid i’r UE newid er mwyn ymateb yn well i’w pryderon.

“Pwysleisiodd Jean-Claude Juncker ei fod eisiau cytundeb teg i’r DU ac y byddai’n ceisio helpu. Maen nhw wedi cytuno bod yn rhaid cael trafodaethau pellach, gan gynnwys gydag arweinwyr eraill, ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen.”