Safle'r lladrad yn Hatton Garden
Bydd wyth o ddynion yn ymddangos yn y llys heddiw wedi’u cyhuddo o gynllwynio i ladrata mewn cysylltiad â’r lladrad gemwaith yn Hatton Garden, Llundain.

Ymysg y dynion mae Terry Perkins, 67, Daniel Jones, 58, a Hugh Doyle, 48, o Enfield; William Lincoln, 59, o Bethnal Green; a John Collins, 74, o Islington.

Mae Brian Reader, 76, a Paul Reader, 50, o Dartford, a Carl Wood, 58, o Cheshunt, hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad.

Roedd yr  wyth wedi cael eu cadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster heddiw.

Mae bron i ddeufis ers i griw o ladron dorri i mewn i 72 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden yn Llundain dros benwythnos y Pasg.

Mae Heddlu’r Met wedi wynebu beirniadaeth am y lladrad, yn enwedig ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedden nhw wedi ymateb i larwm yn y lleoliad.