Mae’r rhan o’r A55 wedi cau i’r gorllewin wedi i lori, oedd yn cludo tatws, droi ar ei hochr.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 10:45 neithiwr ac mae’r lon wedi ei chau rhwng cyffordd 27A Pont Dafydd a chyffordd 27 yn Llanelwy.
Dywedodd yr heddlu y bydd y lon ar gau “tan hysbysiad pellach”.