David Cameron
Mae David Cameron wedi pwysleisio mai “dechrau o’r newydd” fydd y Llywodraeth yn ei wneud wrth iddo annerch ei Gabinet newydd am y tro cyntaf.

Wrth iddo groesawu aelodau’r Cabinet i Downing Street, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r mwyafrif sydd gan y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin yn golygu ei fod yn “wahanol” i’r Glymblaid gan na fyddai’n rhaid gwyro oddi wrth ei bolisïau.

Ychwanegodd mai’r Ceidwadwyr yw’r “blaid go iawn i bobl sy’n gweithio.”

Meddai David Cameron: “Bydd hon yn Llywodraeth wahanol. Nid yw’n Llywodraeth Glymblaid felly mae gennym ni atebolrwydd priodol.”

Dywedodd hefyd mai cyflawni addewidion yn llawn yw un o’r pethau pwysicaf y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i adfer ffydd ac ymddiriedaeth pobl yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Meddai: “Mae’n gwbl hanfodol bod pob penderfyniad a gymerwn, bob polisi yr ydym yn mynd ar ei ôl, pob rhaglen rydyn ni’n ei ddechrau yn ymwneud â rhoi’r cyfle gorau i bobl i fyw bywyd boddhaus ac yn gwneud y gorau o ddoniau pawb yn ein gwlad.”