Vladimir Putin
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, yn Rwsia i gwrdd â’r Arlywydd Vladimir Putin mewn ymdrech i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad yn dilyn y gwrthdaro yn yr Wcráin a Syria.
Bu John Kerry yn gosod torch ger cofeb yr Ail Ryfel Byd yn Sochi cyn cwrdd â’r gweinidog tramor Sergey Lavrov.
Fe fydd yn cwrdd â Vladimir Putin yn ddiweddarach yn ystod ei ymweliad cyntaf a Rwsia ers mis Mai 2013, pan ddechreuodd y gwrthdaro yn yr Wcrain.
Mae disgwyl iddo alw ar Putin i roi pwysau ar wrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia yn yr Wcrain i gydymffurfio a’r cadoediad bregus yno, yn ôl swyddogion.
Bydd John Kerry hefyd yn ceisio rhoi pwysau ar Moscow i gefnogi diwygiadau gwleidyddol yn Syria er mwyn dod a’r rhyfel yno i ben.
Roedd y Kremlin wedi cadarnhau’r bore ma y byddai Vladimir Putin yn cwrdd â John Kerry gan ddweud eu bod yn croesawu ei benderfyniad i deithio i Rwsia.