Anas Sarwar
Mae heddlu’n ymchwilio wedi i un o ymgeiswyr y Blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol dderbyn neges yn bygwth ei fywyd ar ei beiriant ateb.

Roedd y sawl adawodd y neges yn bygwth saethu Anas Sarwar, Dirprwy Arweinydd Llafur yn yr Alban, yn farw. Fe adawyd y neges rhwng Ebrill 8 a 10 ar beiriant ateb swyddfa’r gwleidydd yn ninas Glasgow.

Mae Anas Sarwar yn ceisio dal gafael ar ei sedd yn etholiad Canol Glasgow.

“Fe dderbyniwyd adroddiad am neges fygythiol a adawyd ar beiriant ateb Anas Sarwar,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae ymchwiliad yn parhau.”

Mae cyd-wleidyddion wedi condemnio’r bygythiad.