Fukushima - un o atomfeydd niwclear Japan
Mae heddlu yn Japan wedi arestio dyn sydd wedi cyfadde’ glanio awyren ddibeilot ar do swyddfa prif weinidog y wlad.

Fe aeth Yasuo Yamamoto o’i wirfodd at yr heddlu i gyfadde’r drosedd, a hynny fel rhan o brotest yn erbyn y nifer o atomfeydd niwclear sy’n Japan, a’r modd y maen nhw’n cael eu rhedeg a’u harolygu.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r awyren ddibeilot (dron) ddydd Mercher, ac roedd pryderon mai ymosodiad terfygol oedd e. Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Ond mae’r protestiwr, Yasuo Yamamoto, 40, yn wynebu cyhuddiadau o hedfan awyren ddibeilot ac o ymyrryd gyda dyletswyddau swyddfa’r prif weinidog.

Roedd yr awyren fechan yn cario camera a photel o ddwr llygredig.