Mae galwadau o’r newydd am ymchwiliad annibynnol i system gyfrifiadurol sy’n cael ei ddefnyddio gan is-bostfeistri ar ôl i adroddiad fynegi pryderon am broblemau posib.

Cafodd yr ymchwiliad gwreiddiol gan y cyfrifwyr fforensig Second Sight ei gynnal ar ôl i fwy na 100 o is bostfeistri gael eu cyhuddo o dwyll ariannol yn dilyn problemau hefo system Horizon.

Roedd Swyddfa’r Post wedi galw am yr adolygiad gan Second Sight ar ôl i’r is-bostfeistri gwyno ynglŷn â diswyddiadau annheg a chyhuddiadau anghyfiawn a achoswyd gan ddiffygion yn y system.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post fod y cwmni yn bryderus ynglŷn â nifer y cwynion gafodd eu gwneud gan is-bostfeistri, ond nad oedd tystiolaeth i gefnogi eu honiadau.

Ond mae Second Sight wedi dweud bod Swyddfa’r Post wedi methu ag ymchwilio i’r methiannau yn dilyn pryderon gan ASau yn 2012.

“Fel yr ydym wedi’i ddweud yn y gorffennol, rydym yn bryderus bod system Horizon yn ddiffygiol ar adegau o safbwynt y defnyddiwr ac nad yw’r Swyddfa Bost wedi darparu lefel ddigonol o gefnogaeth i ni,” meddai Second Sight.

“Rydym yn credu y dylai’r Swyddfa Bost fod yn llawer mwy effro i broblemau posib gyda Horizon ac annog ei staff i ddatblygu dealltwriaeth well ohono.”

Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn dweud eu bod yn siomedig bod Swyddfa’r Post yn “herio” adroddiad Second Sight, ac maen nhw’n galw am ymchwiliad annibynnol.