Mae addewid gan David Cameron i greu dwy filiwn o swyddi ychwanegol wedi’i wawdio gan Gynghres yr Undebau Llafur (TUC).

Mae’r Undebau Llafur yn cyfeirio at y ffaith fod 1.86 miliwn yn ddi-waith ar hyn o bryd, tra bod David Cameron yn addo dileu diweithdra yn llwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O’Grady: “ Mae’n anodd gweld sut all y Ceidwadwyr greu dwy filiwn o swyddi ychwanegol dros gyfnod y senedd nesaf.

“Bydd toriadau llym yn y sector gyhoeddus yn lleihau’r galw yn yr economi a fydd yn gwneud cannoedd ar filoedd o bobl sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus yn ddi-waith.”

GMB yn ategu

Ac meddai Paul Kenny, arweinydd undeb y GMB: “Mae’r datganiad hwn yn gwbl ddisail ac heb hygrededd o gwbl. Mae’r amgylchiadau sydd wedi creu swyddi newydd yn y senedd hon, yn anhebygol o gael ei hailadrodd yn y senedd nesa’.

“Mae’r swyddi newydd hynny yn rhai sgiliau isel, gyda thâl isel ac oriau heb sicrwydd.”

“Nonsens llwyr”

Dywedodd Mick Cash, arweinydd Undeb yr RMT, wedyn, “fod y addewid hwn yn nonsens llwyr”.

“Does yna neb yn y byd go iawn, lle maen nhw’n wynebu bygythiad barhaus i’w bywoliaeth, yn coelio’r rwtsh y mae David Cameron yn ei ddweud am eiliad.”