David Cameron
Fe all athrawon, gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr yng Nghymru a Lloegr sy’n methu gwarchod plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar o dan fesurau newydd.

Byddai’r mesurau, gafodd eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog David Cameron, yn gweld y drosedd o ‘esgeuluso bwriadol’ yn ymestyn i feysydd addysg a’r gwasanaeth cymdeithasol.

Pe bai’n derbyn sêl bendith, byddai dirwyon yn cael eu rhoi i unigolion neu sefydliadau sydd wedi methu gwarchod plant, ac fe all uwch swyddogion weld eu pecynnau tal yn cael eu diddymu os oes tystiolaeth eu bod wedi anwybyddu achosion o gam-drin rhywiol.

Yn ogystal, byddai llinell ffon yn cael ei chreu er mwyn i bobol fedru rhoi gwybod i’r awdurdodau am achosion o fethiannau yng ngofal plant.

Mae’r mesurau’n cael eu cyhoeddi ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod tua 1,400 o ferched ifanc wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yn Rotherham gan gangiau o ddynion Asiaidd, a bod y cyngor wedi methu gweithredu yn eu herbyn.

Ond mae’r Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan am beidio mynd yn ddigon pell.

‘Cyd-weithio’n well’

Fe fydd David Cameron yn trafod y mesurau newydd mewn cynhadledd ar warchod plant sy’n cael ei gynnal yn Stryd Downing gydag aelodau o’r heddlu, arweinwyr cyngor, gweinidogion ac arbenigwyr iechyd.

Yno bydd yn galw ar awdurdodau lleol i gyd-weithio yn well i osgoi achosion tebyg i Rotherham eto:

“Roeddem ni gyd wedi cael ein cythruddo hefo achos Rotherham ac achosion eraill ledled y wlad,” meddai.

“Mae plant wedi cael eu hanwybyddu a hyd yn oed eu beio, gydag achosion yn cael eu celu.

“Mae’n rhaid i’r diwylliant hwn gael ei ddiddymu.”

Ond yn ol Yvette Cooper mae angen “newid radical” yn y system gwarchod plant ac mae hi’n pryderu bod David Cameron wedi colli cyfle.