Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu
Fe fydd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn dweud fod Iran yn peri bygythiad i ddyfodol ei wlad mewn araith i Gyngres yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach heddiw.

Mae disgwyl iddo hefyd leisio pryderon am unrhyw gytundeb niwclear sydd ar y gweill rhwng yr Arlywydd Barack Obama a phrif elyn Israel, fyddai’n rhoi’r gallu i Tehran ddatblygu arfau niwclear.

Mae’r araith yn cael ei gweld fel ymdrech olaf i leisio barn ynglŷn â chytundeb bosib, bythefnos cyn i etholiadau cenedlaethol gael eu cynnal yn Israel lle bydd Benjamin Netanyahu yn brwydro i ddal gafael yn ei swydd.

“Rwyf yn bwriadu siarad am  gyfundrefn yn Iran sy’n bygwth dinistrio Israel, sy’n difa gwlad ar ôl gwlad yn y Dwyrain Canol  ac sy’n allforio terfysg ar draws y byd,” meddai’r Prif Weinidog.

“Dychmygwch beth fyddai Iran yn ei wneud hefo arfau niwclear.”

Mae Barak Obama wedi dweud na fydd yn cwrdd gyda Benjamin Netanyahu tra mae yn Washington ac mae rhai aelodau’r Gyngres yn yr UD wedi dweud fod yr araith yn stỳnt wleidyddol.