Morrisons
Mae Morrisons wedi cyhoeddi gostyngiad o 3.1% mewn gwerthiant yn y chwe wythnos hyd at Ionawr 4.

Yn dilyn hynny, fe gyhoeddodd y cwmni archfarchnad bod y prif weithredwr Dalton Philips yn gadael ei swydd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Mae disgwyl i Andrew Higginson ddod yn gadeirydd y busnes yn ddiweddarach y mis hwn. Dywedodd bod bwrdd y cwmni’n credu bod angen “arweinyddiaeth newydd” i roi hwb i’r busnes.