David Cameron
Fe fydd David Cameron yn dychwelyd i ganol y ffrae ym Mrwsel heddiw i geisio sicrhau swydd allweddol i Brydain yn y Comisiwn Ewropeaidd.
Ar ôl i’r Prif Weinidog fethu yn ei ymdrechion i atal Jean-Claude Juncker rhag cael ei benodi’n llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mae David Cameron wedi cyhoeddi mai’r Arglwydd Hill o Oareford sydd wedi cael ei enwebu ar ran y DU i wasanaethu yn y tîm.
Mae Downing Street wedi awgrymu y bydd David Cameron yn ceisio sicrhau portffolio economaidd i’r Arglwydd Hill pan fydd yr arweinwyr yn cwrdd ar gyfer trafodaethau.