David Cameron
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron wynebu rhagor o gwestiynau heddiw ynglŷn â’i gysylltiadau ag Andy Coulson wrth i’r rheithgor barhau i ystyried eu dyfarniad ynglŷn â chyhuddiadau pellach yn ei erbyn.
Cafwyd Coulson, cyn gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10, yn euog ddoe o gynllwynio i hacio ffonau tra roedd yn olygydd y News of the World.
Mae’r rheithgor yn yr Old Bailey yn dal i ystyried honiadau bod Coulson, 46, o Gaint wedi cynllwynio gyda chyn olygydd brenhinol y papur, Clive Goodman, 56, o Surrey, i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy dalu swyddogion yr heddlu am restr o rifau ffôn y teulu brenhinol.
Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau.
Bu’n rhaid i Coulson ymddiswyddo fel cyfarwyddwr cyfathrebu David Cameron ychydig cyn iddo gael ei arestio mewn cysylltiad â’r helynt hacio ffonau, ac mae’n wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.
Cafwyd cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.
Cafodd Coulson ei recriwtio gan y Canghellor George Osborne fisoedd yn unig ar ôl iddo ymddiswyddo fel golygydd y News of the World ym mis Ionawr 2007.
Ddoe, roedd David Cameron wedi ymddiheuro am benodi Coulson gan gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad.
Mae disgwyl iddo wynebu rhagor o gwestiynau ynglyn a phenodiad Coulson yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw.
Fe fydd y rheithgor yn ail-ddechrau ystyried eu dyfarniad ynglyn a’r cyhuddiadau pellach am 11 bore ma.