Mae cyn-faer Dinbych, a gafodd ei garcharu am achosi ffrwydradau yn y dref, wedi colli ei apêl yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd John Larsen, 47, o Bwll Grawys, Dinbych ei ddedfrydu i 18 mlynedd dan glo wedi i reithgor ei gael yn euog o wneud dyfeisiadau ffrwydrol ei hun a’u defnyddio  i ffrwydro car ger ei gartref.

Fe ddigwyddodd y ffrwydradau yn ardal Pwll Grawys rhwng mis Ionawr a mis Ebrill y llynedd.

Roedd y cyn-faer wedi gwadu’r cyhuddiadau ac fe wnaeth gais i’r Llys Apêl i leihau ei ddedfryd. Ond daeth tri barnwr i’r casgliad bod y ddedfryd yn addas.

Roedd Larsen yn gynghorydd tref ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol nes iddo gael ei arestio ac roedd yn faer tref Dinbych rhwng 1999 a 2000.