Mae gorfodi rhywun i briodi yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr wedi i gyfraith newydd ddod i rym heddiw.
Gall gorfodi rhywun i briodi arwain at ddedfryd o saith mlynedd yn y carchar o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Mae hefyd yn anghyfreithlon bellach i orfodi rhywun o Brydain i briodi y tu allan i’r DU.
Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd y newid yn y gyfraith yn diogelu miloedd o ddioddefwyr.