Madeleine McCann
Fe fydd Kate a Gerry McCann yn ymddangos mewn llys ym Mhortiwgal heddiw i gyflwyno datganiadau personol ynglŷn â sut yr oedd cyhuddiadau mewn llyfr gan gyn bennaeth yr heddlu yno wedi’u heffeithio.
Mae’r cwpl wedi cael caniatâd i wneud sylw yn achos Goncalo Amaral sy’n cael ei erlyn gan y cwpl am yr honiadau a wnaeth yn ei lyfr The Truth Of The Lie, yn dilyn diflaniad eu merch Madeleine, yn Praia da Luz yn 2007.
Roedd Kate a Gerry McCann wedi clywed yn wreiddiol na fyddan nhw’n cael gwneud datganiadau yn yr achos, ond cafodd y penderfyniad ei wyrdroi yn dilyn apêl gan eu cyfreithiwr.