Y Canghellor George Osborne
Mae chwyddiant wedi gostwng am y chweched mis yn olynol ym mis Mawrth yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw.

Syrthiodd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i’w gyfradd isaf mewn pedair blynedd – i 1.6% o 1.7% yn y mis blaenorol yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’n debyg bod hyn yn arwydd o ddiwedd cyfnod o chwe blynedd pan mae codiadau cyflog wedi bod yn llusgo y tu ôl i’r cynnydd mewn costau byw.

Prisiau petrol sydd wedi cyfrannu fwyaf at y gostyngiad mewn chwyddiant.

Daw’r ffigyrau diwrnod cyn cyhoeddi ystadegau’r farchnad lafur ac mae disgwyl i’r ffigyrau hynny ddangos bod cyflog rheolaidd yn codi ar gyfradd o 1.8%.

Nid yw’r CPI wedi bod mor isel ers mis Hydref 2009, pan oedd yn 1.5%.

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod y cyhoeddiad yn newyddion da i deuluoedd ond bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau twf yr economi.

Meddai’r Prif Weinidog David Cameron ar y wefan Twitter: “Newyddion da bod chwyddiant wedi gostwng eto sy’n golygu mwy o sicrwydd ariannol i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.”