Y gwyntoedd ym Mhorthcawl ddoe
Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn arwain trafodaethau brys heddiw ynglŷn ag ymateb Prydain i’r stormydd sydd wedi arwain at farwolaeth dyn a degau o filoedd o gartrefi heb gyflenwad trydan.

Mae disgwyl iddo gadeirio pwyllgor newydd o’r Cabinet sy’n trafod yr ymateb i’r stormydd a’r llifogydd diweddar.

Cafodd cannoedd o bobl eu rhwystro rhag teithio ar ôl i wyntoedd o hyd at 108mya atal gwasanaethau trên ac oedi ar y ffyrdd oherwydd coed yn cwympo.

Mae cannoedd o filwyr yn dal i i helpu perchnogion tai sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd yn ne Lloegr.

Dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney bod y trafferthion hefyd yn bygwth adferiad economaidd Prydain, oherwydd yr effaith ar drafnidiaeth, busnesau a ffermydd.

Dywed yr Heddlu yn Wiltishire bod dyn yn ei 70au wedi marw ar ôl cael ei ladd gan geblau trydan wrth geisio symud coeden.

Cafodd gyrrwr lori ei gludo i’r ysbyty ar ôl i’w lori droi drosodd yn y gwyntoedd cryfion ym Mryste, tra bod dyn arall wedi cael triniaeth ar ôl cael ei ddal yn gaeth o dan goeden yn Barnstaple yn Nyfnaint.