Coden wedi cwympo ar draws y ffordd ym Mhwllheli ddoe
Mae miloedd o gartrefi yn dal heb gyflenwad trydan bore ma wedi gwyntoedd yn hyrddio dros 100mya mewn mannau neithiwr.

Mae tua 50,000 o gartrefi yn dal heb gyflenwad trydan, 39,000 yn benna’ yn y gogledd.

Dywed Phil Davies, Rheolwr Gwasanaethau Rhwydwaith Western Power fod 14,000 o gartrefi yn y de-orllewin heb drydan, eu bod yn gweithio ar 200 o wahanol ddigwyddiadau ac yn gobeithio cael y gwasanaeth yn ol i bawb erbyn diwedd y dydd heddiw.

Y broblem fawr, meddai, ydi coed yn cwympo oherwydd bod y ddaear mor wlyb ac yn cwympo ar draws polion a gwifrau.

Fe fu’n noson brysur i’r gwasanaethau brys gyda Gwasanaeth Tan Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn ymateb i tua 400 o achosion brys rhwng 8 y bore ddoe tan 5.30 y bore ma.

Mae Pont Britannia yn Ynys Môn bellach wedi ail-agor bore ma ar ôl i lori droi drosodd ddoe ond mae na oedi hir i deithwyr yn yr ardal o hyd.

Trafferthion ar y ffyrdd a’r trenau

Ar y ffyrdd, mae ’na oedi o hyd hefyd ar ôl i goed gwympo yn y gwyntoedd cryfion.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni trenau Arriva ar Radio Wales bore ma mai ddoe oedd y diwrnod gwaetha’ y maen nhw wedi ei gael o ran amharu ar wasanaethau yng Nghymru.

Mae bysus yn lle trenau ar y gwasanaethau i Aberystwyth, Y Bermo, Blaenau Ffestiniog ac Abergwaun ac maen nhw’n tjecio lein Canol Cymru o Abertawe i’r Amwythig rhag ofn bod coed wedi cwympo – fydd dim gwasanaeth bysus yno.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynghori teithwyr i ohirio teithiau yn ystod yr oriau brig ac i gysylltu gyda chwmnïau trenau a bysys cyn cychwyn ar eu taith.

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing: “Fe allai gymryd diwrnod neu ddau i bethau wella a fy nghyngor i fyddai gohirio neu ganslo unrhyw deithiau oni bai ei bod yn angenrheidiol oherwydd mae’n debyg y bydd na oedi.

“Hoffwn hefyd apelio ar loriau sy’n bwriadu teithio i Ynys Môn i’r gwasanaeth fferi i ystyried gwahanol ffyrdd, neu ohirio eu taith nes bod Pont Britannia wedi ailagor yn gyfan gwbl.”

Ysgolion ar gau

Yn y gogledd mae nifer o ysgolion  ar gau eto bore ma yn bennaf oherwydd difrod  a wnaed i’r adeiladau oherwydd y gwyntoedd. Y rhai sydd ar gau yw Ysgol Friars Uchaf ym Mangor,  Ysgol Ardudwy yn Harlech, Ysgol Botwnnog, ym Motwnnog; Ysgol gynradd Waunfawr, Ysgol Uwchradd Bodedern, ac Ysgol y Gorlan, Tremadog.

Mae Ysgol y Berwyn yn y Bala ar agor i blant a staff sy’n teimlo ei fod yn ddiogel iddyn nhw deithio i’r ysgol.

Gellir gweld y rhestr llawn o ysgolion yng Ngwynedd sydd wedi cau yma:

Yn Sir Benfro mae Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd, wedi cau ynghyd a Ysgol gymunedol Maenclochog. Mae’r rhestr llawn yma.

Yng Ngheredigion mae Ysgol Gymunedol Cenarth, Ysgol Gymunedol Craig yr Wylfa ac Ysgol Gymunedol Llanafan wedi cau.

Yng Nghonwy mae Ysgol Gynradd Llangelynnin ar gau.

Ymateb Carwyn Jones

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones  ar Radio Cymru bore ma ei fod yn fodlon gydag ymateb y cwmnïau pŵer i adfer trydan i gartrefi.

Dywedodd: “Yr her nawr yw sicrhau bod pobl yn cael eu trydan yn ôl… mae’n rhaid rhoi teyrnged i’r cwmnïau trydan am eu gwaith. Roedd Scottish Power wedi dod a phobl lawr o’r Alban i helpu. Fe allai pethau fod wedi bod llawer yn waeth ond mae ’na heriau o hyd heddiw.”

Ar ôl i David Cameron ddweud ddoe nad oedd “arian yn ystyriaeth” wrth geisio rhoi cymorth i bobl yn sgil y llifogydd, dywedodd Carwyn Jones nad oedd sefyllfa debyg yma yng Nghymru ond ychwanegodd:

“Mae ’na system mewn lle mae cynghorau yn gallu gofyn am arian ychwanegol ac fe fyddwn ni yn ystyried pob cais. Ond ar hyn o bryd mae’n anodd gwybod beth fydd y gost gan fod y tywydd yn dal heb wella – fe fydd mwy o syniad gyda ni unwaith fydd y tywydd wedi gostegu.

“Ry’n ni wastad tyn cadw arian yn ôl fel ein bod ni’n gallu helpu mewn achosion fel hyn – mae son bod mwy o arian ar gael yn Lloegr – os ydy’r arian yn dod o’r Trysorlys yna mae’n bosib y byddwn ni yn cael siâr o hynny.”

Fe fydd rhagor o wybodaeth yn y man…