Fe fydd prif gwnstabl Heddlu Manceinion, Syr Peter Fahy yn cael ei gyhuddo o dorri rheolau iechyd a diogelwch ar ôl i ddyn gael ei saethu er nad oedd yn arfog ar y pryd.

Cafodd  Anthony Grainger, 36 oed, ei saethu’n farw ym mis Mawrth 2012 gan swyddog arfog ar ôl i’w gar gael ei stopio fel rhan o gyrch yn Culcheth, Sir Gaer.

Nid oedd yn arfog ar y pryd ac nid oedd arfau yn ei gar.

Fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na ddylai’r swyddog arfog wynebu cyhuddiadau o lofruddio neu ddynladdiad gan y byddai rheithgor yn debygol o dderbyn ei fod yn credu bod y weithred yn angenrheidiol.

Honnir bod ’na ddiffygion sylweddol yn y modd yr oedd yr heddlu wedi paratoi ar gyfer y cyrch, gan beri risg i unigolion, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Fe fydd y gwrandawiad cyntaf ar gyfer y cyhuddiad iechyd a diogelwch yn cael ei gynnal yn Llys Ynadon Westminster ar 10 Chwefror.

Os yw’r heddlu’n eu cael yn euog fe allen nhw wynebu dirwy amhenodol.