Basil McCrea a John McCallister, arweinwyr NI21
Mae plaid sefydlwyd yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin eleni wedi galw am ragor o ddatganoli i Gynulliad Stormont.

Sefydlwyd plaid NI21 gan ddau gyn aelodau o Blaid Unoliaethol Ulster fel plaid gwrth-enwadaeth sydd yn credu mewn rhannu grym a gwrthod llywodraeth gan unrhyw fwyafrif yng Ngogledd Iwerddon oddi mewn i’r Deyrnas Unedig.

Mae NI21 yn cynnal eu cynhadledd wleidyddol gyntaf dros y Sul a dywedodd un o’r arweinwyr, Basil McCrea y dylai Gogledd Iwerddon gael yr hawl i osod ei threth incwm a threth stamp ei hun.

“Mae San Steffan yn rhoi rhagor o bwerau i gynulliadau rhanbarthol er mwyn iddyn nhw allu teilwra polisiau sydd er lles eu hetholwyr a’r economiau,” meddai.

Taer angen

Dywedodd nad yw Gogledd Iweddon wedi bod yn rhan o’r drafodaeth ehangach hyd yn hyn ond bod y gallu i godi trethi “yn ddull sylfaenol unrhyw lywodraeth er mwyn creu cyfeiriad strategol ar gyfer yr economi.”

“Rydan ni taer angen y modd o wneud hyn’” meddai gan ddweud y bydd yr argymhellion yma yn sicr o gael eu gwrthwynebu gan unoliaethwyr a’u croesawu gan Sinn Fein.

Dywedodd y buasai cael y pwerau ychwanegol yma yn gwneud y gwleidyddion yn Stormont yn llawer mwy atebol i’r etholwyr ac yn galluogi’r cynlluniad i gydymffurfio efo’r patrwm o ddatganoli rhagor o bwerau oddi mewn i’r Deyrnas Unedig.