Mae nifer y troseddau sy’n cael eu cyflawni yng ngwledydd Prydain wedi gostwng eleni, er gwaetha’r toriadau i heddluoedd Cymru a Lloegr.

Yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw cafodd 8.6 miliwn o droseddau eu cofnodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae’n ymddangos bod nifer y bobol sydd wedi cael eu treisio eleni wedi cynyddu 2%.

Mae lle i gredu bod y cynnydd yn gysylltiedig â nifer y bobol sydd wedi adrodd am droseddau wrth yr heddlu yn dilyn helynt Jimmy Savile.

Mae nifer yr achosion o dwyll wedi codi 27%.

Ar y cyfan, cafodd 9% yn llai o droseddau eu cyflawni eleni, sy’n cyfateb i’r lefel isaf ers 1981, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Ar ben y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw, fe wnaeth y llysoedd ymdrin ag 1 miliwn o fân droseddau ychwanegol yn uniongyrchol.

Cafwyd cynnydd o 9% yn nifer y bobol a ddioddefodd yn sgil lladrata.

Newyddion da, medd Cameron

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron fod y ffigurau’n “newyddion da”.

Ond daw’r cyhoeddiad wrth i nifer y plismyn yng Nghymru a Lloegr ostwng unwaith eto eleni, o 3.4% i 4,516 i’w lefel isaf ers 2002.

Mae yna bryderon y gallai nifer y bobol sy’n cael eu treisio barhau i gynyddu.

Dywedodd llefarydd: “Yr hyn rydyn ni’n gweld yn y ffigurau heddiw yw mwy o bobol sydd wedi dioddef o ganlyniad i droseddau yn y gorffennol yn dod ymlaen i adrodd am droseddau a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.

“Mae’n bosib y gallai effaith ehangach Ymchwiliad Yewtree arwain at gynnydd yn nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu hadrodd am gyfnod o amser i ddod eto.”