Tony Nicklinson
Mae disgwyl i’r achos cyfreithiol am yr hawl i farw, a ddechreuwyd gan Tony Nicklinson, gyrraedd y Llys Apêl heddiw.

Bu farw Tony Nicklinson, 58 oed, yn ei gartref yn Melksham, Wiltshire ym mis Awst y llynedd ar ôl iddo goll apêl yn yr Uchel Lys i roi terfyn ar ei fywyd gyda help meddyg.

Roedd ei weddw Jane wedi addo y byddai’n parhau gyda’i frwydr yn y llysoedd.