Llywodraeth yr Alban
Mae Llywodraeth Yr Alban wedi derbyn cais i ostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Cafodd ei gyflwyno fel rhan o Fesur sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth a fydd yn cael ei gynnal yn ystod Hydref 2014.

Bydd yn golygu bod modd i’r holl bobol 16 oed sy’n gymwys i bleidleisio yn cael cofrestru i gymryd rhan yn y refferendwm.

Pe bai’r Mesur yn cael ei dderbyn, bydd Yr Alban yn creu cofrestr etholiadol ranbarthol, a’r wybodaeth yn cael ei chadw ar gyfer y refferendwm hwn yn unig.

Cofrestr

Bydd y gofrestr hefyd yn cynnwys enwau dinasyddion Prydeinig Yr Alban, trigolion Albanaidd yn y Gymanwlad, Gwyddelod Yr Alban a thrigolion eraill o rannau gwahanol o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd enwau Arglwyddi sy’n byw yn Yr Alban, a milwyr Albanaidd hefyd ar y gofrestr.

Fydd pobol sydd yn y carchar ddim yn cael pleidleisio yn y refferendwm.

Bydd y cwestiwn a gaiff ei holi yn ystod y refferendwm yn cael ei ddewis fis nesaf.

‘Cael dweud eu dweud’

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon: “Does gan neb ran fwy o faint yn nyfodol ein gwlad na phobol ifanc heddiw ac mae hi ond yn briodol eu bod nhw’n medru dweud eu dweud yn y bleidlais bwysicaf yn Yr Alban ers tair canrif.

“Yn y refferendwm y flwyddyn nesaf, bydd pobol 16 a 17 oed yn Yr Alban yn cael y cyfle i siapio llwybr eu gwlad trwy ddewis pa fath o wlad maen nhw am i’r Alban fod.

“Mae’n ddewis uniongyrchol. Gwlad annibynnol lle rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau mawr sy’n effeithio ar ein dyfodol yma yn Yr Alban neu gadael i’n tynged gael ei phenderfynu o bell.

“Mae’n ddewis o ran y math o wlad rydyn ni am i’r Alban fod ac rwy’n hyderus y bydd pobol ifanc yn Yr Alban yn dymuno cymryd cyfrifoldeb am ddyfodol Yr Alban.

“Yn 16 oed, gall pobol ifanc briodi, cael plant a thalu trethi ac felly mae’n briodol eu bod nhw’n derbyn yr hawl i bleidleisio ar ddyfodol y wlad lle maen nhw’n byw.

“Yn Yr Alban gyfoes, rhoi’r bleidlais i bobol 16 a 17 oed yw’r peth priodol i’w wneud.”