Roedd Heddlu De Cymru wedi cyflenwi mwy o blismyn i Gemau Olympaidd Llundain na bron unrhyw heddlu arall ar ôl i gwmni diogelwch G4S fethu â darparu digon o swyddogion diogelwch.
Mewn ffigurau gafodd eu datgelu gan y Gweinidog Diogelwch, James Brokenshire AS, mae Heddlu De Cymru wedi derbyn ad-daliad o £983,206 am gyflenwi plismyn i’r Gemau Olympaidd o achos diffygion G4S.
O’r 18 o heddluoedd wnaeth gyflenwi dim ond Strathclyde a West Midlands sydd wedi derbyn mwy o arian ad-dalu.
‘£1,000 y dydd’
Roedd G4S wedi rhoi gwybod i drefnwyr y Gemau Olympaidd na fyddan nhw’n gallu darparu digon o swyddogion diogelwch bythefnos cyn i’r ŵyl athletau ddechrau.
Yn ystod y Gemau dywedodd plismon wrth gylchgrawn Golwg ei bod hi’n costio £1,000 y dydd i gael plismon i gyflenwi o achos prinder gweithwyr diogelwch.
Cafodd milwyr eu defnyddio hefyd i gymryd lle rhai o’r swyddogion diogelwch ac yn ystod y cyfnod gwaethaf roedd G4S yn brin o 35% o staff yn ystod y Gemau.
Gwnaeth y cwmni golled o £70m wrth geisio cyflawni cytundeb diogelwch y Gemau Olympaidd a’r Paralympaidd.