Bydd y streic yn cael ei gynnal ar ddiwrnod y Gyllideb
Mae gweision sifil am gynnal streic ar ddiwrnod y Gyllideb gan lawnsio tri mis o weithredu diwydiannol dros gyflog, pensiynau ac amodau gwaith.

Mae’r Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn dweud y bydd bron i 250,000 o weithwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o streiciau a phrotestiadau wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn toriadau’r Llywodraeth yn San Steffan.

Bydd streic 24 awr yn cael ei gynnal ar 20 Mawrth pan fydd y Canghellor, George Osborne, yn cyflwyno’r Gyllideb i’r Senedd.

Bydd streiciau pellach yn cael eu cynnal a fydd yn amrywio o ran hyd ac yn targedu gwahanol rannau o’r gwasanaeth sifil.

‘Llywodraeth yn gwrthod siarad â ni’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS, Mark Serwotka: “Nid protest undydd yw hwn, mae’n ddechrau ar raglen o streiciau a gweithredu aflonyddgar i roi pwysau ar y Llywodraeth sy’n gwrthod siarad â ni.

“Mae gweision sifil yn gweithio’n galetach nag erioed i ddarparu’r gwasanaethau yr ydym oll yn dibynnu arnyn nhw, ond, yn hytrach na’u gwobrwyo, mae’r Llywodraeth yn gwneud toriadau i’w cyflog, yn ymosod ar eu pensiynau ac yn ceisio rhwygo eu hamodau gwaith sylfaenol.

“Mae yna ddewis arall ar wahan i dorri safonau byw gwesion sifil sy’n gweithio’n galed ac mae ein hymgyrch ni wedi cael ei gynllunio i wneud yr achos yn uchel ac yn glir.”