Mae pobl wedi dechrau pleidleisio yn isetholiad Eastleigh heddiw.

Mae’r isetholiad yn cael ei gynnal yn dilyn ymddiswyddiad cyn weinidog y Cabinet Chris Huhne o’r Democratiaid Rhyddfrydol  ar ôl iddo gyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r etholaeth yn Hampshire yn cael ei weld fel sedd allweddol i’r Ceidwadwyr er mwyn sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol yn 2015.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol   yn benderfynol o gadw eu gafael ar y sedd er mwyn rhoi hwb i’r blaid.

Mae cwmwl wedi cael ei daflu dros yr ymgyrch yn dilyn awgrymiadau bod y blaid wedi methu a chymryd camau priodol i ddelio gyda honiadau bod yr Arglwydd Rennard wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at rai ymgyrchwyr y blaid.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd hi’n ganlyniad agos ond mai’r Democratiaid Rhyddfrydol  fydd yn achub y blaen ar y Ceidwadwyr.