Carchar Prescoed
Mae Heddlu Gwent wedi dal tri charcharor oedd wedi dianc o garchar Prescoed ddydd Mawrth.

Roedd Stephen Booth, 34, Jason Morris, 38, a John Phillips, 28, wedi dianc o’r carchar agored yn Sir Fynwy, lle roeddent wedi eu carcharu am droseddau lladrata amrywiol.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y tri yn y ddalfa, nes iddyn nhw gael eu dychwelyd i’r carchar.

Mae adroddiadau eu bod wedi cael eu dal yn ardal Casnewydd nos Fercher.