Mae’r nifer o bobol sy’n cael eu trin mewn unedau brys wedi cynyddu yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y ffigurau roedd y nifer o bobol a gafodd eu trin mewn unedau brys 2.0% yn uwch yn ystod y deuddeg mis rhwng mis Mai 2018 a 2019, o gymharu â’r deuddeg mis rhwng mis Mai 2017 a 2018.

O gymharu â’r deuddeg mis rhwng 2013 a 2014; roedd ystadegau 2018-2019 7.5% yn uwch.

Ar gyfartaledd roedd 2,994 o bobol yn ymweld ag unedau brys yng Nghymru pob dydd yn ystod mis Mai eleni.