Mae’r rhyngrwyd wedi “dymchwel y welydd” o gwmpas cerddoriaeth Cymraeg, ac wedi ehangu gorwelion y sîn.
Dyna farn Gruff Owen, pennaeth a sylfaenydd label recordiau Libertino, a daw ei sylwadau ar Ddydd Miwsig Cymru.
Mae’n tynnu sylw at y platfform ffrydio cerddoriaeth, Spotify, a llwyddiant diweddar sawl band Cymraeg arno – gan gynnwys Adwaith ac Alffa.
Ac mae’n ategu bod y fath platfformau wedi gwaredu rhwystrau, gan gyflwyno cynulleidfa ryngwladol i gerddorion Cymraeg.
“Mae’n gwbl agored i ni nawr, i fynd allan i hyrwyddo i’r byd,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae pobol yn gwrando. Mae yna gynulleidfa sydd gyda diddordeb, ac sy’n mynd i edrych mewn yn fwy i gerddoriaeth Cymraeg.
“O’r blaen, dw i’n teimlo mai’r gateholders oedd y wasg Seisnig. Roedden nhw’n rhoi validation and dweud os oedd y gerddoriaeth yn cŵl neu beidio.
“Ond ti’n gwybod beth? Mae beth ddigwyddodd gydag Alffa yn dangos bod ddim angen validation gan unrhyw un tu allan i Gymru rhagor.
“… Mae dal gen ti bobol sydd ddim yn derbyn cerddoriaeth iaith Gymraeg yn y diwydiant tu allan i Gymru. Ond nawr rydym ni’n mynd o’u hamgylch nhw! Rydym ni’n mynd yn syth at y gynulleidfa.”
Rhestrau chwarae
I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad, ac mae rhestrau chwarae (playlists) Spotify wedi cael eu creu.
Mae Gruff Owen yn croesawu’r rhestrau chwarae yma, ac yn dweud eu bod yn adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yn y sîn bellach.
“Mae’n dangos pa mor eang mae’r sîn erbyn hyn,” meddai. “Mae gyda chi pob math o gerddoriaeth. Mae’n sefyll lan i unrhyw beth sy’n mynd allan yn y byd.
“Beth bynnag yw dy chwaith gerddorol di, mae e ar gael yn yr iaith Gymraeg. Ac yn ogystal â hynny, mae’n hynod o safonol. Mae’n gerddoriaeth dda.”