Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau bod Morlyn Llanw Bae Abertawe yn mynd yn ei flaen.
Mae amheuon wedi codi ynghylch dyfodol y prosiect, yn dilyn y newyddion fis diwethaf na fyddai’r gwaith o adeiladu’r morlyn yn dechrau tan 2017, a hynny er gwaethaf y sylw i’r prosiect gan y Canghellor George Osborne yn ei Gyllideb fis Mawrth eleni.
Dywedodd darpar ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd y byddai’r Morlyn Llanw’n dod â manteision sylweddol i Gymru – gyda swyddi newydd, ynni glanach ac adnewyddadwy ac atyniad i dwristiaid.
“Ond mae’r prosiect bellach mewn perygl gan nad yw’r llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn gwneud digon i’w gefnogi.
“Ar ben hynny, dyw’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn methu gwneud ei dyletswydd i ddatrys y broblem.
“Rydyn ni’n galw ar y ddwy lywodraeth, Llafur a Cheidwadol, i wneud mwy i sicrhau bod Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn mynd ymlaen yn ôl ei amserlen.”
Cefndir
Cafodd y cytundeb i godi’r morlyn ei roi i gwmni Tidal Lagoon Power ar ôl i Lywodraeth Prydain gymeradwyo’r cynllun ym mis Mehefin.
Bwriad y prosiect gwerth £1 biliwn yw cyflenwi trydan ar gyfer mwy na 150,000 o dai drwy harnesu grym y môr.
Roedd yr Aelod Cynulliad Rhyddfrydol, Peter Black eisoes wedi mynegi pryder am yr oedi cyn mynd ati i ddechrau ar y gwaith adeiladu.
Fis diwethaf, dywedodd: “Yn fwy difrifol, mae’r ffaith fod Llywodraeth Prydain yn llusgo’u traed dros y tariff trydan, yn awgrymu eu bod yn amharod i dalu’r pris sy’n angenrheidiol i wneud y prosiect yn ddichonadwy.
“Rwy’n bryderus fod diffyg ymrwymiad y Llywodraeth i’r morlyn ac i egni adnewyddadwy yn debyg o ladd y fenter yn gyfan gwbl.”
Un arall a fynegodd siom fis diwethaf oedd llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
“Mae hyn yn newyddion siomedig ac mae’r oedi yn arafu ymhellach symudiad Cymru o ynni ffosil budur i ynni adnewyddadwy glan.
“Mae potensial morlyn Bae Abertawe yn anferth a dyw hi ddim yn dderbyniol fod y cydsyniadau angenrheidiol yn cymeryd cyhyd. Mae’r ansicrwydd am gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth San Steffan hefyd yn tanseilio’r gwaith.
“Ar adeg pan mae Llywodraeth San Steffan yn torri’r arian mae’n cyfrannu at brosiectau ynni adnewyddadwy mae’n naturiol fod perchnogion prisiectau ynni amgen eraill yn pryderu am ymrwymiad y llywodraeth i leihau ein dibyniaeth ar ynni carbon isel.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Fis diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ar y funud, does yna ddim cyfnod penodedig ar ba mor hir y mae’r broses drafod am bara dros forlyn llanw Bae Abertawe. Mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau, gyda llawer ohonynt y tu allan i reolaeth y Llywodraeth.”