Mae Arglwydd Ceidwadol am gyflwyno gwelliant i ddeddfwriaeth er mwyn cyfreithlonni priodasau o’r un rhyw yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd gwelliant i’r Bil Partneriaethau Sifil yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener.

Gogledd Iwerddon yw’r unig un o wledydd Prydain lle mae’n dal yn anghyfreithlon i gyplau o’r un rhyw briodi.

Mae’r Arglwydd Robert Hayward, a gyflwynodd fil ar y mater y llynedd, bellach wedi cyflwyno gwelliant.

Ond dydy gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon ddim wedi gallu pledleisio am nad oes gan Ogledd Iwerddon Gynulliad ers dros ddwy flynedd.

Ymgyrchwyr yn croesawu’r gwelliant

Mae ymgyrchwyr yng Ngogledd Iwerddon yn croesawu’r gwelliant.

“Fwy na dwy flynedd ers i lywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon ddymchwel, mae angen rhai sy’n deddfu arnom yn San Steffan er mwyn sicrhau priodasau cyfartal i bawb,” meddai Patrick Corrigan, cyfarwyddwr rhaglenni Amnest Rhyngwladol.

“Os yw Stormont yn dychwelyd, rydym yn hapus i barhau i gydweithio ag aelodau’r cynulliad ar draws yr holl bleidiau i newid y gyfraith, ond yn y cyfamser, all cydraddoldeb ddim aros.”