Tref sy’n gartref i waith prosesu gwastraff niwclear yw Tomioka yn Japan – o lle mae tri o aelodau’r grwp gwrth-niwclear, PAWB, yn anfon eu cerdyn post diweddaraf at ddarllenwyr golwg360.
Ers cael ei gwagio adeg trychineb Fukushima yn 2011, mae’r dref bellach wedi’i chyhoeddi’n ‘ddiogel’ gan yr awdurdodau… ond eto, does yno neb yn byw nac yn mynd o gwmpas eu pethau fel mewn dinasoedd eraill.
Yn y fideo tri munud a hanner hwn, mae Meilyr Tomos, Robat Idris a Linda Rogers yn cael eu tywys o gwmpas y dref gan bobol leol yn gwisgo masgiau.
Mae’r tri ymgyrchydd wedi teithio i Japan ar wahoddiad Cyfeillion y Ddaear y wlad, er mwyn dwyn perswad ar Hitachi i dynnu eu cefnogaeth yn ôl o brosiect Wylfa Newydd ym Môn.