Roedd refferendwm annibyniaeth Catalwnia’n “ymgais i danseilio rheolau sylfaenol” democratiaeth, meddai brenin Sbaen.
Daeth sylwadau’r Brenin Felipe VI yn ystod Fforwm Economaidd y Byd yn y Swistir.
Rhybuddiodd y dylai’r helynt fod yn wers i genhedloedd y byd fod rhaid cynnal cyfraith gwlad a sofraniaeth.
Roedd ymgais Catalwnia i ennill ei hannibyniaeth yn cael ei alw’n “argyfwng” gan Sbaen.
Wrth ymateb i’r ymgais, fe wnaeth Sbaen ddiddymu llywodraeth Catalwnia a chyhoeddi etholiad cyffredinol, lle enillodd y pleidiau o blaid annibyniaeth fwyafrif bach.
Mae’r cyn-Arlywydd Carles Puigdemont yn dal yn alltud ar ôl gadael am Wlad Belg.