Mae arlywydd newydd Zimbabwe, Emmerson Mnangagwa, wedi apwyntio cyn-bennaeth byddin y wlad yn un o’i ddau ddirprwy.

Fe ddaw hyn yn sgil ofnau bod gan y fyddin ormod o ddylanwad o fewn y drefn newydd, yn dilyn ymadawiad Robert Mugabe o’r brif swydd fis diwethaf.

Ond roedd apwyntiad Constantino Chiwenga yn un hir ddisgwyliedig, wedi iddo ymddeol o’r lluoedd arfog fis diwethaf. Dan y cyfansoddiad, roedd yn rhaid iddo ymddeol er mwyn cymryd ei le o fewn gweinyddiaeth yr arlywydd newydd.

Mae Emmerson Mnangagwa hefyd wedi penodi cyn-weinidog diogelwch y wlad, Kembo Mohadi, yn ddirprwy iddo.

Mae dau gyn-filwr pwerus iawn eisoes wedi ennill eu lle yng nghabinet yr arlywydd newydd, tra bod cyn-filwr arall wedi’i apwyntio yn gommisar ei blaid, Zanu-PF.