Fe ddylai pawb o bobol y byd dderbyn addysg a gofal iechyd yn rhad ac am ddim, meddai’r Dr Aleida Guevara ar ei hymweliad i roi araith yn nhref Dinbych neithiwr (Tachwedd 7).

Mae merch hynaf y chwyldroadwr, Che Guevara, yn rhedeg dau gartref i blant anabl yn Ciwba, yn ogystal â dau gartref arall ar gyfer plant ffoaduriaid sy’n dioddef o ganlyniad i broblemau domestig.

Mae hi hefyd yn cynorthwyo yn ardal Rio Cauto, lle mae llifogydd mawr wedi chwalu tai a chymunedau, ac mae’n ymweld ag Angola yn gyson i drin plant sâl.

“Mewn un diwrnod, fe welais i gymaint â thrigain o blant,” meddai. “Weithiau, rydw i’n llwyddo i arbed bywydau… ond weithiau, dw i jyst ddim yn gallu gwneud digon. Mae’r gofid hwnnw’n aros gyda chi am byth.

“Mae gwybod fod yna ddigon o arian i wneud gwahaniaeth, ond bod yr arian hwnnw ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhaglenni cymdeithasol, a bod pobol yn cael eu hecspoetio a’r bobol bwerus yn camddefnyddio arian, yn achosi rhwystredigaeth.

“Ac wedyn, mae ganddoch chi’r bobol hynny sy’n fodlon derbyn pethau fel ag y maen nhw, heb fod eisiau newid dim…

“Mae pawb o bobol y byd yn haeddu addysg a gofal iechyd yn rhad am ddim. Dyna ei hawl.”