Fe ddylai Aelodau Seneddol o bleidiau gwahanol – ond sy’n rhannu’r weledigaeth y dylai Prydain aros yn y Farchnad Sengl – weithio efo’i gilydd i gael y maen i’r wal.

Dyna farn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae prif chwip y blaid, Alistair Carmichael, mewn trafodaethau gydag ASau o bob plaid ym San Steffan, yn ceisio eu hannog nhw i gefnogi gwelliant i Araith y Frenhines a allai orfodi’r Llywodraeth i ddiwygio ei chynlluniau Brexit.

“Mae hwn yn gyfle hanesyddol i drechu’r Llywodraeth ac i orfodi Theresa May i ail-feddwl,” meddai Alistair Carmichael.

“Dyna ydi cyfrifoldeb Aelodau Seneddol, sef i wrando ar bryderon pobol ax i geisio sicrhau y ddêl orau.”