Paul Nuttall (Llun Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae arweinydd UKIP wedi cadarnhau y bydd yn sefyll yn enw’r blaid yn etholaeth Boston a Skegness yn etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Yn ol Paul Nuttall, mae hi’n “fraint fawr ac yn anrhydedd” sefyll mewn etholaeth a bleidleisiodd yn unfrydol tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hynny, yn rhannol, meddai, oherwydd y modd y cafodd y diwydiant pysgota ei fradychu a’i gam-drin gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd.

“Fy nod i fydd sefyll i fyny dros bobol Boston a Skegness, a gwneud yn siwr na fyddan nhw’n cael mwy o gam oherwydd Brexit,” meddai Paul Nuttall.