Mark Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymu
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn gweld “her” yn y syniad y gallai Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal ar Fehefin 8 eleni.

Yn ol Mark Williams, fe fyddai hynny’n “brawf go iawn… mae pob etholiad yn brawf.. ond mae’n brawf yn lleol o fewn etholaeth Ceredigion ac fy record i fel Aelod Seneddol yn yr etholaeth”.

“Dydych chi byth mewn etholiad yn cymryd unrhyw beth yn ganiatáol,” meddai wedyn. “Mae’n rhaid i chi weithio mor galed ag y medrwch, a siarad â chymaint o bobol ag y gallwch.”

Cyfle i’w blaid

Er hyn, dywed ei fod yn hyderus y gallai’r etholiad cyffredinol hwn gynnig cyfle i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill tir.

“Mae’n gyfle i newid cyfeiriad o ran Brexit caled ac o ran aelodau Prydain o’r Farchnad Sengl,” meddai.

Doedd dim disgwyl i etholiad cyffredinol gael ei gynnal tan 2020, a bydd angen i ddwy ran o dair o Aelodau Seneddol gefnogi’r symudiad, ac mae disgwyl pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, Ebrill 19.