Mae digon i’w drafod yn Strasbwrg – cartref y Senedd Ewropeaidd – oedd yn pleidleisio dros gynnig Ewrop yn y trafodaethau Brexit yr wythnos hon.

Mae Jill Evans ASE yn dweud na fydd yn rhoi’r gorau i ymladd cornel Cymru wrth i’r broses barhau.

Ac mae Gareth Hughes yng Nghaeredin – yn sôn am y ffrae rhwng Nicola Sturgeon a Theresa May dros gynnal ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Bydd golwg ar Gwestiynau’r Prif Weinidiog fel yr arfer a hel clecs am benderfyniad Mark Reckless i adael UKIP ac ail ymuno â’r Ceidwadwyr. Wythnos brysur arall ym myd gwleidyddol Cymru!